Mae ffigyrau tlodi Cymru wedi dod dan y lach wedi i ffigyrau’r Cyfrifiad ddangos bod rhannau o’r wlad gyda’r gwaethaf am iechyd da ymysg ei thrigolion.
O’r deg awdurdod lleol yn y DU sydd gyda’r lefelau isaf o iechyd “da”, roedd pump ohonyn nhw yng Nghymru.
Pobl yng Nghymru yw’r mwyaf tebygol o ddweud bod eu hiechyd yn wael neu’n wael iawn – sef 7.6% – a’r mwyaf tebygol o ddweud bod ganddyn nhw salwch neu anabledd sy’n amharu ar eu bywyd bod dydd.
Blaenau Gwent oedd y gwaethaf gyda 72.6% o’r trigolion yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n iach. 73% ym Merthyr Tydfil, 73.3% yng Nghastell Nedd Port Talbot, 74.5% yn Rhondda Cynon Taf a 74.7% yng Nghaerffili.
Hart yn Hampshire oedd y gorau gyda 88.1% o’r trigolion yn teimlo’n iach.
Dywedodd Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod y ffigyrau yn “siomedig” a dywedodd bod y Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i’r afael â’r broblem.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, bod y ffigyrau yn “gywilyddus”.