Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru wedi  bygwth atal cyllid i Goleg Harlech o fis Ebrill ymlaen os nad ydyn nhw’n cymryd camau i fynd i’r afael â’r problemau ariannol yn y sefydliad.

Dywedodd Leighton Andrews mewn datganiad bod y Coleg wedi rhoi gwybod i’w swyddogion cyn y Nadolig bod eu dyledion o £900,000 yn waeth nag oedden nhw wedi ei ragweld.

Mae Llywodraeth Cymru erbyn hyn yn gweithio gyda’r coleg i adfer y sefyllfa a cheisio rhoi cynllun mewn gwaith.

Dywedodd Leighton Andrews: “Rwyf wedi gofyn i wasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru edrych ar systemau Coleg Harlech.

“Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, dysgwyr yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnal.  Bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio â’r coleg i sicrhau nad effeithir ar y dysgwyr.”