Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn tân a laddodd 150 o golomennod yn Nhreherbert heddiw.

Digwyddodd y tân yn y siediau lle’r oedd yr adar yn cael eu cadw, ar randir yn ardal Blaencwm yn oriau man bore Mercher.  Cafodd yr heddlu alwad am 5.30yb gan berchennog yr adar, ac maen nhw’n credu bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.

“Rydyn ni’n trin yr achos yma fel un hynod ddifrifol.  Roedd  difrod sylweddol i’r sied, ac roedd rhaid i’r perchnogion wynebu sefyllfa ofnadwy,” meddai’r Rhingyll Julian Bull.

Bu farw tua hanner o’r 300 o adar oedd yn cael eu cadw ar y safle, gan achosi cryn golled ariannol i’r perchnogion.

“Rydyn ni’n credu y gall y cyhoedd gynorthwyo ein hymchwiliad, ac felly rydyn ni’n apelio iddyn nhw ddod ymlaen,” meddai.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn tybio i rywun dargedu’r perchnogion, ac maen nhw’n apelio ar  unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr oriau cyn 5.30yb, i gysylltu â nhw ar 101.