Maes awyr Caerdydd
Roedd yna beryg y byddai maes awyr Caerdydd wedi gorfod cau oni bai bod Llywodraeth Cymru wedi camu mewn a datgan ei bod eisiau ei brynu.
Dyna ddywedodd Carwyn Jones wrth y Pwyllgor Menter a Busnes heddiw.
Cyn y Nadolig fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod mewn trafodaethau i brynu’r safle.
“Roedd y maes awyr mewn trafferthion, dyna oedd yr argraff roedden ni yn ei gael a dyna oedden ni hefyd yn ei glywed gan arbenigwyr yn y maes. Roedden nhw’n pryderu na fyddai’r maes awyr yn fasnachol ymhen ychydig o flynyddoedd.”
Yn ôl Carwyn Jones doedd maes awyr Caerdydd ddim o ddiddordeb mawr i’r cwmni presennol am fod ganddyn nhw lu o feysydd awyr eraill mwy o faint. Ond mae’n argyhoeddedig y bydd modd i’r Llywodraeth ddenu mwy o gwsmeriaid yno am ei bod yn credu bod y maes awyr yn bwysig i Gymru.
Mae hefyd yn dweud bod angen cynllunio ymlaen llaw.
“Does dim cynllun pum mlynedd neu 10 mlynedd yn ei le ac oherwydd hynny mae wedyn yn anodd denu buddsoddiad ac felly yn anodd gweld sut y gallai’r lle ddatblygu.”
Tan yn ddiweddar roedd Caerdydd yn gwneud elw, meddai, ac mae’n dweud bod arbenigwyr yn credu y gallai’r maes awyr wneud elw unwaith eto.
Ond mae’n dweud y bydd angen gwneud newidiadau er mwyn gwella’r drafnidiaeth sydd ar gael. “Dw i wedi cael sawl cwyn bod pobl ddim yn gallu cael tacsi a’r ffaith bod tacsis, oni bai am un cwmni, ddim yn gallu stopio tu allan i’r fynedfa. Dw i ddim yn gwybod am unrhyw faes awyr arall yn unrhyw le lle mae hyn yn digwydd.”
Dywedodd Carwyn Jones bod angen denu mwy o ymwelwyr i’r brifddinas.
“Mae Caerdydd yn tueddu i gael ei weld fel lle i bobl adael i fynd ar eu gwyliau ac yna dod nôl eto.”
Ers i’r Llywodraeth gyhoeddi ei bod eisiau prynu’r maes awyr mae nifer o gwmnïau masnachol wedi dangos diddordeb mewn rhedeg y lle, meddai Carwyn Jones. Dydy o ddim yn fwriad ganddyn nhw i brynu’r safle gyda rhywun arall ond fe allai cwmni arall yn y dyfodol brynu cyfran o’r maes awyr, meddai.
Doedd o ddim yn fodlon datgelu faint o arian mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wario ar brynu’r maes awyr gan ddweud nad yw’r pris wedi ei gadarnhau yn derfynol eto.
‘Calonogol’
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddatblygiad economaidd Alun Ffred Jones ei fod yn croesawu’r cyfle i holi’r Prif Weinidog ynglŷn â’u cynlluniau i brynu’r maes awyr.
Mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r syniad o brynu’r maes awyr ond wedi galw am ragor o fanylion ynglŷn â chynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol a gwerth am arian.
“Roedd y sesiwn heddiw yn galonogol a chafwyd trafodaeth llawer mwy adeiladol na’r hyn rydym wedi ei gael yn ystod yr wythnosau diwethaf.”
Wrth ymateb i’r feirniadaeth sydd wedi bod i gynlluniau’r Llywodraeth i brynu’r maes awyr, dywedodd Alun Ffred Jones bod Plaid Cymru wedi bod yn fwy positif na rhai o’r pleidiau eraill ond ychwanegodd bod y blaid am drafod pryderon ynglŷn â gwerth am arian a chynllun tymor hir i droi’r maes awyr yn ased cyhoeddus.