Alex Salmond
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cytuno i newid cwestiwn y refferendwm ar annibyniaeth y flwyddyn nesaf.
Yn hytrach na gofyn “A ydych chi’n cytuno y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?” bydd y refferendwm bellach yn gofyn “A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?”.
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dweud fod y cwestiwn gwreiddiol yn rhy unochrog o blaid annibyniaeth ac mae Llywodraeth SNP yr Alban wedi cytuno i’w newid.
“Tra oedden ni’n credu fod y cwestiwn naethon ni ei gynnig yn glir, syml ac yn hawdd i’w ddeall, rwy’n hapus i dderbyn yr argymhelliad i newid,” meddai Nicola Sturgeon, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban.
Mae cyn-ganghellor Prydain ac arweinydd yr ymgyrch Na, Alistair Darling, wedi dweud ei fod yn “bles fod y Comisiwn Etholiadol amhleidiol wedi gwrthod y cwestiwn unochrog roedd Alex Salmond yn mynnu ei gael.”
Cael gwario mwy
Mae’r Comisiwn Etholiadol hefyd wedi argymell codi’r cyfyngiad ar faint gall y carfannau Ie a Na wario ar eu hymgyrchoedd. Maen nhw’n argymell y gall y ddwy ochr wario hyd at £1.5m yr un, sy’n ddwbl yr hyn roedd Llywodraeth yr SNP am ei weld.
Bydd yr argymhellion a geiriad y cwestiwn yn mynd gerbron senedd yr Alban yn Holyrood ac mae disgwyl i’r refferendwm gael ei gynnal yn yr hydref 2014.