Alun Ffred Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw am gyhoeddi ffigurau cyson am berfformiad economi Cymru.
Wrth i wleidyddion ddisgwyl cyhoeddiad am GDP yng nglwedydd Prydain – mesur o holl gynnyrch yr economi – maen nhw’n dweud bod angen ffigurau ar wahân ar gyfer Cymru.
Heb hynny, meddai llefarydd economaidd Plai Cymru, Alun Ffred Jones, does dim modd gwybod sut mae Cymru’n gwneud na galw Llywodraeth Cymru i gyfri’.
“Rhaid i ni gael y wybodaeth yn gywir ac yn brydlon fel bod gan lunwyr polisi well syniad o sut i fynd i’r afael â’r economi, a gwneud newidiadau pan fydd problemau,” meddai.
“Fel y mae pethau, dydi pysl jig-so economi Cymru ddim yn gyflawn, sy’n golygu bod yn rhaid amcangyfrif a dyfalu pan ddylai data caled fod ar gael.”
Y Swyddfa Ystadegau yn Llundain sy’n cyhoeddi’r ffigurau.