Mae rhybuddion wedi’u rhoi am ddau fath o ddwyn oddi ar ffermwyr – dwyn defaid a dwyn pori.
Fe gyhoeddodd y Llywodraeth eu bod yn rhoi £150,000 i geisio taclo pori anghyfreithlon, lle bydd perchnogion anifeiliaid yn eu rhoi ar dir cyhoeddus neu dir pobol eraill heb ganiatâd.
Yn ôl yr heddlu, mae’n digwydd fel rheol gyda cheffylau ac yn arbennig o gyffredin yn ardaloedd Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
Fe fydd yr arian yn mynd at gostau dod â’r porwyr anghyfreithlon i’r llys ac, yn ôl y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, fe fydd yn help i rwystro masnachu anghyfreithlon mewn ceffylau hefyd.
Rhybudd am ddwyn defaid
Yn y cyfamser, mae un o undebau’r ffermwyr wedi rhybuddio aelodau i wylio rhag lladron defaid, gan sôn am gynnydd mewn rhai ardaloedd yn ystod y deunaw mis diwetha’.
Yng nghyffiniau Abertawe, meddai Undeb Amaethwyr Cymru, roedd saith o ffermwyr wedi colli gwerth £30,000 o ddefaid – tua 350 o anifeiliaid.
“Yn anffodus, mae dwyn anifeiliaid wedi cynyddu’n ofnadw yn y blynyddoedd diwetha’,” meddai Howell Davies o fferm Perthigwynion ym Mhontardawe.
“Ym mis Awst, fe gollais i 62 o famogiaid.”