Gweddillion eglwys Llanddwyn (Smab Sputzer CCA 2.0)
Mae hyd yn oed y Llywodraeth wedi ceisio ymuno yn ysbryd y Santes Dwynwen, trwy ganmol y gwaith sy’n digwydd ar ei heglwys.

Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, wedi dweud y bydd gwaith atgyweirio ar yr eglwys yn Ynys Llanddwyn yn  “dod ag un o chwedlau gorau Cymru yn nes at y bobol”.

Eglwys nawddsant cariadon yn Ynys Môn yw un o 24 prosiect sy’n rhannu gwerth £19m o nawdd ar gyfer twristiaeth treftadaeth gan y corff adeiladau hanesyddol, Cadw.

Trwsio

Mae cerrig rhydd yn cael eu clirio a bydd darnau o’r eglwys ganoloesol ger Niwbwrch yn cael eu hail-adeiladu, gan gynnwys ffenest fwa a gwympodd yn yr 1950au.

Fe fydd hi’n bosibl i bobol weld darnau o’r safle sydd heb gael eu gweld gan y cyhoedd ers 200 mlynedd.

“Mae prosiectau fel hyn yn allweddol i gadw ein gorffennol yn fyw ac i hybu’r economi lleol,” meddai Huw Lewis. “Maen nhw’n chwarae rôl bwysig wrth werthu Cymru a’i diwylliant i’r byd.”

Statws i Ddydd Santes Dwynwen

Ar ddiwrnod y santes mae Plaid Cymru hefyd yn cydnabod gwerth Dwynwen i Gymru.

“Bob blwyddyn, mae Gŵyl Sant Ffolant yn cyfrannu £65 miliwn i economi Cymru, a buasai’n wych petai’r un statws yn cael ei roi i Ddiwrnod Santes Dwynwen,” meddai Alun Ffred Jones AC.

“Yng Nghymru, mae gynnon ni ein nawddsantes cariadon ein  hunain, felly beth am annog mwy o bobol i’w dathlu, a thrwy hynny hybu eu hunaniaeth Gymreig.”