Nick Clegg
Mae economegwyr yn rhybuddio y gallai ffigurau economaidd gwael olygu fod gwledydd Prydain ar fin mynd i ddirwasgiad am y trydydd tro yn ystod yr argyfwng presennol.

Ac mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi awgrymu bod Llywodraeth y Glymblaid wedi torri gormod ar wario cyfalaf.

Y bore yma, fe fydd ffigurau GDP am gyfanswm gweithgarwch economaidd yn cael  eu cyhoeddi a’r disgwyl yw gostyngiad ar gyfer y chwarter diwetha’.

Fe fyddai chwarter arall o ostyngiad yn swyddogol yn golygu dirwasgiad tri-thro – tri chyfnod o gwymp heb gynnydd o bwys yn y cyfamser.

‘Tipyn gwannach’

Fe fyddai ffigurau gwael heddiw hefyd yn dangos mai cynnydd dros dro oedd yn ystod yr haf, gydag effaith digwyddiadau mawr fel y Gêmau Olympaidd.

Eisoes mae rheolwr Banc Lloegr, Syr Mervyn King, wedi rhybuddio y bydd ffigurau’r chwarter yma “dipyn gwannach” ac mae asiantaetha benthyca rhyngwladol yn dweud fod bygythiad i statws AAA gwledydd Prydain.

Sylwadau Nick Clegg

Mae’n ymddangos bod Nick Clegg yn cyfadde’ bod y Llywodraeth a’r Canghellor, George Osborne, wedi gwneud camgymeriad ar ôl dod i rym trwy dorri gormod ar wario cyfalaf, ar gynlluniau adeiladu a datblygiadau tebyg.

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn y senedd The House, fe ddywedodd eu bod wedi dilyn cynlluniau’r Blaid Lafur ond y dylen nhw fod wedi gwneud mwy i hybu’r economi.

“Ble bynnag y gallwn ni, rhaid i ni gael mwy o fuddsoddi cyfalaf,” meddai. “Mae’r dystiolaeth economaidd yn gwbl glir. Mae’n helpu i greu swyddi’n awr ac mae’n cynyddu gallu cynhyrchu’r economi yn y tymor hir.”