Dwy ardal yng Nghymru yw’r lleia’ tebyg o weld ceisiadau yswiriant oherwydd torri i mewn i dai.

Yn ôl dadansoddiad gan y wefan ariannoil Moneysupermarket.com, mae lefel y ceisiadau mewn tref yng Nghwm Tawe ac un ardal yn Sir Benfro bron â bod yn ddim.

Trwy edrych ar ymholiadau am bolisi yswiriant a chyfri nifer y ceisiadau ym mhob ardal cod post, fe ddaeth yn amlwg mai SA9 yng Nghwm Tawe sydd â’r lleia’ – ardal Ystradgynlais a phen ucha’ Cwm Tawe.

Cod post ardal Hwlffordd – SA62 – sy’n ail gyda mwy neu lai’r un sgôr tra bod yr ardaloedd gwaetha’ yng ngwledydd Prydain, fel Leeds, yn gweld mwy na 30 cais am bob 1,000 o ymholiadau.

Effaith ar yswiriant

Fe rybuddiodd llefarydd ar ran y wefan y gallai lefelau uwch o geisiadau arwain at yswiriant uwch i bawb yn yr ardal – cynnydd o hyd at 20%.

“Fe fydd lladron yn aml yn targedu ardaloedd gyda thrigolion cyfoethog, neu ardaloedd tawelach lle nad oes llawer o bobol yn mynd heibio ar droed, lle mae’r enillion yn debyg o fod yn uwch a’r peryg o gael eu dal yn is,” meddai Hannah Jones.