Mae mam oedd yn cysgu yn ei gwely tra roedd ei mab 5 mlwydd oed yn crwydro’r strydoedd wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio.

Pan ddaeth yr heddlu o hyd i’r plentyn tua 9:20 gyda’r nos, roedd yn chwilio am “rhywun i chwarae ag o”.

Roedd y fam 35 mlwydd oed wedi bod yn yfed yn drwm cyn mynd i’w gwely.

Pan ddaeth yr heddlu a’r bachgen gartref, roedd y fam yn cael trafferth siarad ac roedd hi’n simsan ar ei thraed.

Dywedodd y Barnwr Andrew Shaw yn Llys Ynadon Sir y Fflint yn yr Wyddgrug ei fod yn cydnabod nad oedd y fam yn gwybod bod y plentyn wedi gadael y tŷ ac ychwanegodd mai dyna’r unig reswm pam ei bod yn osgoi dedfryd  o garchar.

Fe wnaeth y fam o Sir y Fflint gyfaddef  cyhuddiad o esgeulustod  a chafodd ddedfryd o wyth wythnos o garchar wedi ei ohirio am 12 mis gyda 12 mis o oruchwyliaeth ac £85 o gostau.