Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi derbyn gradd anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe heddiw mewn cydnabyddiaeth am ei gyfraniad i chwaraeon.

Fe gafodd hyfforddwr tîm rygbi Cymru Radd Anrhydeddus yn y Gyfraith.

Roedd Gatland yn bresennol yn y seremoni raddio yn y brifysgol heddiw, lle dderbyniodd ei radd gyda’r myfyrwyr eraill.

“Mae’n anrhydedd enfawr i gael y radd yma ac mae’n hynod gyffrous.  Dyma fy nhro cyntaf ar gampws Abertawe, ac mae’r cyfleusterau a’r croeso cynnes yma wedi gwneud argraff dda iawn arna i,” meddai Gatland, 49.

Cyn brif-weinidog Cymru, Rhodri Morgan, sydd bellach yn ganghellor Prifysgol Abertawe, oedd wedi cyflwyno’r  radd i Warren Gatland.

“I gefnogwr rygbi fel fi, mae cyflwyno’r wobr yma i Warren Gatland, un o hyfforddwyr mwyaf llwyddiannus Cymru, yn bleser a braint,” meddai Rhodri Morgan.

Ers dod yn hyfforddwr ar dîm Cymru yn 2007, mae Gatland, sy’n wreiddiol o Seland Newydd, wedi cyflawni’r gamp lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dwywaith.  Ac yn 2011, arweiniodd Cymru i rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn erbyn Ffrainc.