Mae merch sy’n honni ei bod hi wedi dioddef ymosodiad rhyw gan bedwar chwaraewr pêl-droed proffesiynol wedi cael ei holi yn y llys heddiw am ddweud celwydd wrth yr heddlu.

Mae Anton Rodgers, 19, Lewis Dunk, 21, George Barker, 21,a Steve Cook, 21, wedi gwadu ymosod yn rhywiol ar y ferch wedi iddyn nhw fynd allan i ddathlu buddugoliaeth eu clwb yn y Sussex Senior Cup y llynedd.

Dechreuodd y ferch 21 mlwydd oed wylo ar ôl iddi gael ei holi gan Sonia Woodley QC, sy’n cynrychioli Steve Cook.

Mae’r erlyniad yn honni bod Steve Cooke a thri o chwaraewyr eraill Brighton and Hove Albion wedi ymosod yn rhywiol ar y ferch pan oedd yn cysgu mewn ystafell wely mewn gwesty yn Brighton ym mis Gorffennaf 2011.

Dwedodd y ferch, a oedd yn 19 oed ar y pryd, iddi weld nifer o luniau ar ffôn symudol un o’r chwaraewyr y bore trannoeth, ond ni allai gofio beth ddigwyddodd.

Roedd ei  chyflogwyr wedi ffonio’r heddlu ar ôl iddi fethu â dod i’r gwaith, ond dywedodd y ferch “gelwyddau” wrth yr heddlu gan honni bod yr ymosodiad wedi digwydd ar y stryd.

Dywedodd y ferch ei bod yn ymddiheuro am wastraffu amser yr heddlu, ond ychwanegodd nad oedd hi eisiau mynd at yr heddlu am ei bod yn ofni gorfod enwi’r chwaraewyr.

Dywedodd ffrind y ferch, a oedd wedi bod allan gyda hi’n gynharach  y noson honno, eu bod nhw wedi yfed rhwng 10 a 15 uned o alcohol ac wedi rhannu potel o win.

Ychwanegodd bod y ferch wedi gadael y clwb gyda dau ddyn ar ôl cusanu un ohonyn nhw.

Cafodd yr achos yn yr Old Bailey ei ohirio tan ddydd Gwener.