Mae un o gyfarwyddwyr clwb pêl-droed Caerdydd wedi ymddiswyddo yn dilyn ymchwiliad i gyhuddiadau o dwyll yn ei erbyn.

Cyhoeddwyd heddiw bod Alan Whiteley wedi gadael bwrdd rheoli Caerdydd “er mwyn osgoi rhagor o embaras”.

Roedd Whiteley, 49, yn un o bump o bobl a gafodd eu harestio yn 2011, mewn perthynas ag ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Difrifol i gyhuddiadau o gynllwynio i dwyllo  mewn perthynas a gwerthiant pedwar safle glo yng Nghymru.

Heddiw fe gyhoeddwyd bod y pump wedi eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo ac mae disgwyl iddyn nhw fynd gerbron Llys Ynadon Llundain ar 30 Ionawr.

Dywedodd Alan Whiteley  bod y cyhuddiadau yn peri siom a thristwch iddo, a bod yr achos yn ei erbyn yn un “gwallus”.

Nid yw’r  cyhuddiadau yn ymwneud a chlwb pêl-droed Caerdydd. Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Hoffwn gyhoeddi ein gwerthfawrogiad  am y gwaith a gyflawnodd Alan Whiteley  dros amser hir yn y clwb. Heb ei waith ni fyddai’r clwb wedi datblygu yn y ffordd y mae wedi.”