James King
Ar ol cael ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf, mae James King wedi dweud nad oes ganddo amser i fod yn bryderus os yw’n cael ei ddewis i herio Iwerddon yng ngêm agoriadol Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae clo’r Gweilch wedi derbyn yr alwad i’r garfan ryngwladol wedi ei berfformiadau disglair gyda’r rhanbarth.

‘‘Dwi ddim yn credu bod gen i amser i fod yn nerfus.  Nid oes llawer o amser  i fynd cyn gêm Iwerddon, os ydw i am ddod yn agos i fod yn rhan o’r tîm mae’n rhaid i mi ddysgu ac addasu yn gyflym,’’ meddai King.

Mae King wedi creu argraff wrth chwarae yn y reng-ôl, ond mae’n debyg mae yn yr ail reng y bydd yn chwarae os caiff ei ddewis i chwarae dros Gymru.

Dywedodd King y byddai’n fodlon chwarae mewn unrhyw safle cyn belled â’i fod yn cael gwisgo’r crys coch.