Mae Plaid Cymru wedi dweud fod yr adroddiadau am oedi cyn rhoi llawdriniaethau i gleifion o Gymru yn ysbytai Lloegr yn “peri pryder.”
Mae’r BBC yn adrodd heddiw fod ymddiriedolaethau iechyd Lloegr wedi cael gorchymyn i ohirio rhai llawdriniaethau arbenigol am gyfnod cyn diwedd y flwyddyn ariannol ym mis Ebrill, mewn ymgais i arbed arian.
Daeth y gorchymyn mewn llythyr gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y corff sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau iechyd arbenigol ar ran byrddau iechyd Cymru.
‘Torri costau’
Honnodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, fod y gorchymyn yn “dangos sut mae methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chyllid y GIG yn effeithio ar gleifion.”
“Y peth sy’n achosi mwyaf o bryder yw ei fod yn datgelu fod canslo triniaethau a gynlluniwyd yn cael ei weld fel dewis hawdd i dorri costau gan Lywodraeth Cymru.
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau y dylai byrddau iechyd fod yn uniongyrchol atebol i bwyllgor iechyd y Cynulliad Cenedlaethol am eu gwariant, ac y dylai’r llywodraeth sefydlu system gadarn i fonitro cyllid.”
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud fod “disgwyliadau Llywodraeth Cymru yn aros yr un peth: fod cleifion yn cael eu gweld o fewn y targedau aros ac yn nhrefn pwysigrwydd clinigol.
“Mae’r Gweinidog yn mynnu fod y Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gweithio ar y sail yna,” meddai’r llefarydd.