Fe fu “gostyngiad sylweddol” mewn troseddau yng Nghymru a Lloegr yn ôl ffigurau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd heddiw.
Ond mae astudiaeth ychwanegol wedi darganfod y gallai’r gostyngiad mewn troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu fod wedi eu gorbwysleisio.
Cwympodd troseddau cyffredinol 8%, neu tua 800,000, i 8.9 miliwn yn y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Medi. Hwn oedd y lefel isaf ers i’r Arolwg Troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr ddechrau yn 1981.
Ond mae adolygiad o’r gwahaniaethau rhwng y ffigyrau swyddogol a throseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn dangos bod cofnodion yr heddlu fel petai’n gorbwysleisio’r gostyngiad – er bod y ddau set o ffigyrau yn dangos gostyngiad mewn troseddau.
Ac yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi gostwng 960,000, tra bod yr arolwg yn dangos gostyngiad o 560,000 o droseddau. Mae hyn yn awgrymu nad yw tua 400,000 o droseddau yn cael eu cofnodi.
‘Gwneud mwy gyda llai’
Dywedodd y Gweinidog Atal Trosedd Jeremy Browne: “Mae troseddau yn parhau i ostwng o dan y Llywodraeth hon.
“Mae diwygiadau i’r heddlu yn gweithio. Rydyn ni wedi cael gwared â thargedau canolog, wedi lleihau’r fiwrocratiaeth ac mae’r ffigurau hyn yn dangos bod yr heddlu yn wynebu’r her o wneud mwy gyda llai. Mae llawer wedi llwyddo i weld gostyngiadau sylweddol mewn troseddau gyda chyllidebau llai.
“Rydym hefyd yn gwella’r berthynas rhwng yr heddlu a’r cyhoedd drwy gyflwyno Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau, gan roi cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn nhw mewn plismona lleol am y tro cyntaf ac rydym wedi sefydlu’r Coleg Plismona i wella proffesiynoldeb yr heddlu gan osod y safonau uchaf o onestrwydd.”