Mae stori am beryglon ysmygu ar Casualty wedi cael ei neilltuo – oherwydd deddfau gwrth-ysmygu Cymru.

Ers y llynedd, mae’r ddrama teledu boblogaidd wedi cael ei ffilmio yng Nghaerdydd sydd wedi bod yn mwynhau ffyniant yn y diwydiannau creadigol gydag agoriad Canolfan Greadigol Porth Teigr yn y ddinas.

Ond mae rheolwyr yn ofni y gallai’r diwydiant yng Nghymru golli cymaint ag £20 miliwn wrth i gwmnïau cynhyrchu benderfynu dewis Lloegr fel lleoliad – oherwydd nad yw’n gwahardd ysmygu go iawn ar ffilm.

Mae pennaeth cynyrchiadau’r BBC, Clare Hudson, wedi galw ar Aelodau’r Cynulliad i ddiwygio’r ddeddfwriaeth oherwydd bod y system bresennol yn golygu bod criwiau yn gorfod mynd i Fryste i ffilmio golygfeydd ysmygu, neu ddefnyddio technegau CGI “drud” yn lle hynny.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: “Mae’r pwyllgor ar hyn o bryd yn cymryd tystiolaeth ar y mater hwn, ac yr wyf yn falch fod y broses graffu yn awr ar waith.

“Yr wyf i o hyd o blaid gwaharddiad llwyr ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, er y byddaf yn gwrando ar y dystiolaeth a gyflwynir ac yn  ei ystyried yn llawn. Ni ddylai unrhyw benderfyniad i lacio’r gwaharddiad gael ei gymryd yn ysgafn.”