Mae cyfarfod yn cael ei gynnal heddiw i drafod dyfodol lladd-dy ar Ynys Môn sy’n debyg o gau os na ddaw prynwr.
Mae Welsh Country Foods yn cyflogi 350 o bobol yn y Gaerwen ac mae’r perchnogion, Vion, wedi dweud fod colli cytundeb gan archfarchnad Asda wedi bod yn allweddol yn eu penderfyniad i gau.
Cyngor Ynys Môn sydd wedi galw’r cyfarfod gyda pherchnogion y lladd-dy, undebau amaeth, a Gyrfa Cymru.
Mae’r safle’n prosesu 640,000 o ŵyn bob blwyddyn ac eisoes mae Hybu Cig Cymru wedi dweud y byddai cau lladd-dy mawr olaf gogledd Cymru yn “ergyd drom i’r holl ddiwydiant bwyd ac amaeth yng Nghymru.”
Mae Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed, Roger Williams, wedi dweud fod Asda wedi ymddwyn yn “llac” drwy dynnu cytundeb oddi wrth Welsh Country Foods, ac mae undeb Unite wedi bod yn gwrthdystio y tu allan i siopau Asda yng Nghaergybi, Llangefni a Bangor.