Safle nwy In Amenas yn Algeria
Fe fydd David Cameron yn rhoi’r manylion diweddara am yr argyfwng yn Algeria i Aelodau Seneddol heddiw wrth i swyddogion geisio darganfod tynged rhai gweithwyr o Brydain ar y safle nwy.
Daeth cadarnhad bod tri o Brydeinwyr wedi cael eu lladd yn y gwarchae a ddaeth i ben ddydd Sadwrn, a chredir bod tri o Brydeinwyr eraill wedi eu lladd. Roedd 23 o wystlon wedi eu lladd ar ôl cael eu dal yn gaeth gan filwriaethwyr Islamaidd am bedwar diwrnod.
Fe gyhoeddwyd mai Paul Morgan, 46, oedd un o’r Prydeinwyr gafodd eu lladd. Roedd y cyn-filwr yn gyfrifol am ddiogelwch ar safle In Amenas.
Mae swyddogion wedi dod o hyd i 25 o gyrff eraill ar y safle heddiw.