Llun: Anna Jones
Mae rhai ysgolion yn dal ar gau bore ma gan fod rhew ar y palmentydd yn achosi trafferthion i gerddwyr.
Mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion sydd wedi cau ym Mlaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr ac mae Cyngor Ynys Môn hefyd wedi dweud bod rhai ysgolion yno yn dal ar gau yn dilyn yr eira trwm ddydd Gwener.
Maen nhw’n cynghori rheini i edrych ar eu gwefan rhag ofn.
Yn ogystal mae ’na rybudd i yrwyr am drafferthion posib wrth deithio yn ne Cymru wrth i’r tymheredd ddisgyn o dan y rhewbwynt.
Mae’r rhew yn golygu bod nifer o ffyrdd yn beryglus iawn i yrwyr ac mae rhai o’r ffyrdd mynyddig yng Nghymoedd y de yn dal ar gau.
Mae rhybudd melyn wedi cael ei gyhoeddi i rybuddio gyrwyr i fod yn ymwybodol o rew ar y ffyrdd.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl rhagor o gawodydd eira eto dros rannau o Gymru heddiw.