Mae elusen iechyd meddwl yn annog gweithiwyr i wisgo dillad lliwgar yfory mewn ymgais i fywiogi ‘diwrnod mwyaf diflas y flwyddyn’.
Mae’r trydydd dydd Llun ym mis Ionawr yn cael ei ystyried fel diwrnod mwyaf diflas yr flwyddyn yn sgil cyfuniad o dywydd drwg, dyledion, yr angen i golli pwysau wedi’r Nadolig a diffyg symbyliad cyffredinol.
Mae’r elusen yn ceisio codi ymwybyddiaeth o iselder tymhorol (SAD) gyda’i ymgyrch newydd, Blooming Monday.
Mae’n gofyn i bobl wisgo dillad lliwgar yfory er mwyn tynnu sylw at broblemau iselder tymhorol a chodi arian at ymchwil i driniaethau.
“Gadewch inni fywiogi Prydain ddydd Llun,” meddai Dr Laura Davidson o’r elusen Mental Health Research UK.
“Er na fydd gwisgo lliwiau llachar yn rhwystro iselder tymhorol, sy’n cael ei achosi gan ddiffyg golau’r haul, mae digon o ymchwil sy’n cysylltu hwyliau â lliwiau.”
Mae arolwg a wnaed gan yr elusen yn dangos bod 28% o weithwyr yn codi cyn iddi oleuo ac yn dychwelyd adref o’r gwaith ar ôl iddi dywyllu yn ystod misoedd y gaeaf. Roedd yr un arolwg yn dangos hefyd fod 9% o’r rhai a holwyd heb unrhyw olau naturiol yn eu lle gwaith.