Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae lluoedd llywodraeth Syria wedi bod wrthi’n brwydro i gadw’r gwrthryfelwyr o’r brifddinas Damascus heddiw.
Er bod gan y gwrthryfelwyr rai cadarnleoedd mewn rhai maestrefi i’r dwyrain a’r de o’r brifddinas, mae lluoedd y llywodraeth wedi llwyddo’n gyson i’w cadw draw o ganol y ddinas drwy fagnelau ac ymosodiadau o’r awyr.
Mae awyrennau llu awyr y wlad wedi bod yn bomio safleoedd y gwrthryfelwyr heddiw, gan ladd o leiaf saith o bobl mewn un pentref.
Dywed asiantaeth newyddion y wladwriaeth fod milwyr wedi lladd “ugeiniau o derfysgwyr” mewn dwy faestref ddeheuol o Damascus.
Mae llywodraeth Syria wedi cael ei chyhuddo o droseddau rhyfel ers cychwyn y gwrthdaro bron ddwy flynedd yn ôl, ac mae o leiaf 56 o wledydd wedi arwyddo deiseb yn galw ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i gyfeirio’r mater at y Llys Troseddol Rhyngwladol.