Eira yn nyffryn Nantlle ddydd Gwener (Anna Wyn Jones)
Mae disgwyl rhagor o eira yn y gogledd y prynhawn yma a heno wrth i fand o eira ledaenu o ddwyrain a de-ddwyrain Lloegr.
Mae rhybudd melyn o eira, a oedd eisoes mewn grym drwy ddwyrain Lloegr, bellach wedi ei ymestyn i gynnwys gogledd-ddwyrain Cymru.
Dywed y Swyddfa Dywydd fod y tywydd oer yn debygol o barhau gyda’r tymheredd yn aros o gwmpas y rhewbwynt drwy’r wythnos.
“Bydd llawer rhan o Brydain yn aros yn rhewllyd dros yr ychydig ddyddiau nesaf ac mae risg parhaus o eira ymhobman bron,” meddai Martin Young o’r Swyddfa Dywydd. “Yn nwyrain Lloegr a dwyrain yr Alban, fodd bynnag, y disgwylir yr eira trymaf heddiw ac yfory.”