Mae’r BBC wedi ymddiheuro ar ôl darlledu pennod o’r rhaglen blant CBeebies a oedd yn cynnwys cymeriad wedi ei wisgo fel y pedoffeil Jimmy Saville.
Roedd ‘Max’, y cymeriad, yn defnyddio acen ac ymadroddion y pedoffeil ac yn gwisgo dillad tebyg i Saville a wig melyn.
Cafodd y rhaglen, a gafodd ei ffilmio yn 2001, ei dangos ar y BBC cyn 9 o’r gloch y bore yma.
Meddai llefarydd ar rhan y BBC:
“Y bore yma fe wnaeth Cbeebies ddarlledu ailddarllediad o bennod o’r Tweenies, a gafodd ei gwneud yn wreiddiol yn 2001, a oedd yn cynnwys cymeriad wedi ei wisgo fel DJ yn dynwared Jimmy Saville.
“Ni fydd y rhaglen hon yn cael ei hailddarlledu, ac mae’n ddrwg iawn gennym am unrhyw dramgwydd a achoswyd.”
Roedd y diweddar Jimmy Saville wedi camdrin mwy na 200 o bobl dros gyfnod o 60 mlynedd.