Y Prif Weinidog David Cameron
Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn traddodi ei araith hir-ddisgwyliedig ar berthynas Prydain â’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos yma.
Roedd i fod i wneud ei araith yn yr Iseldiroedd ddydd Gwener ond cafodd ei gohirio oherwydd yr argyfwng gwystlon yn Algeria.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague y bydd yr araith yn digwydd yr wythnos yma ac y bydd cyhoeddiad ar yr amser a’r lle yfory.
Mae darnau o’r araith sydd wedi cael eu rhyddhau’n dangos bod y Prif Weinidog yn bwriadu dweud bod arno eisiau i Brydain chwarae rhan amlwg yn nyfodol yr Undeb Ewropeaidd, ond os na fydd newidiadau sylfaenol yn yr Undeb fod perygl y byddai pobl Prydain yn “ymlwybro at adael”.
Nid yw’n glir, fodd bynnag, a yw David Cameron yn bwriad ymrwymo’i hun i refferendwm ‘i mewn neu allan’ ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar ôl aildrafod y telerau.
‘Dim cytundeb gydag Ukip’
Yn y cyfamser, mae Nigel Farage, arweinydd Ukip, wedi dweud nad oes unrhyw obaith o gytundeb rhwng ei blaid a’r Torïaid tra bydd David Cameron yn dal wrthy llyw.
“Er nad yw Ed Miliband a Nick Clegg yn cytuno â’r hyn mae Ukip yn sefyll drosto, maen nhw’n cydnabod bod gennym safbwynt synhwyrol y mae llawer o bobl yn y wlad yma’n ei gefnogi,” meddai Nigel Farage.
“Ond y cyfan mae David Cameron yn ei wneud yw ein sarhau a’n galw ni’n ‘nutters’ a ‘closet racists’,” ychwanegodd.
Dywedodd fod y ffaith fod y Prif Weinidog yn gwneud araith ar Ewrop yn deyrnged i’r miloedd o bobl sydd wedi gweithio i helpu sefydlu Ukip fel plaid gwleidyddol.
“Bydd ein gwaith ni wedi’i gyflawni pan ddown ni’n genedl annibynnol sy’n llwyodraethu’i hun,” meddai.
“Yr hyn y dylai Mr Cameron ei wneud yw dweud ein bod ni am gael refferendwm llawn, rhydd a theg ar hyn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Y cwestiwn yw a ydych chi’n dymuno llywodraethu’ch gwlad eich hun trwy’r blwch pleidleisio mewn democratiaeth neu ddod yn dalaith yn unol daleithiau newydd Ewrop.”