Yr Arlywydd Barack Obama - cychwyn ar ei ail dymor heddiw
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cychwyn ar ei ail dymor fel arlywydd.
Fe wnaeth dyngu llw mewn seremoni syml yn y Tŷ Gwyn am hanner dydd – 5 o’r gloch yn ein hamser ni – amser a dyddiad sydd wedi cael ei bennu gan gyfansoddiad y wlad.
Yfory, fe fydd yn ailadrodd y llw ac yn rhoi ei araith sefydlu ar risiau Capitol yr Unol Daleithiau gerbron cannoedd o filoedd o bobl mewn seremoni rwysgfawr.
Yfory hefyd yw’r diwrnod o wyliau cyhoeddus i nodi genedigaeth Martin Luther King, arwr y frwydr dros hawliau sifil i bobl dduon y wlad, a gafodd ei lofruddio yn 1968.
Gwlad ranedig
Ar ôl tymor cyntaf digon anodd fel arlywydd, mae Barack Obama wedi ennill clod am ddod â rhyfel Irac i ben, paratoi at dynnu allan o Afghanistan, cymryd camau i ddatrys argyfwng economaidd y wlad, a chyflwyno gwelliannau i ofal iechyd yn y wlad.
Mae’n dal yn boblogaidd gydag arolygon barn yn dangos ei fod yn cael ei weld fel arweinydd cryf sy’n sefyll dros yr hyn mae’n ei gredu ac yn sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud.
Fodd bynnag, dangosodd yr etholiad ym mis Tachwedd fod America’n wlad ranedig iawn ac mae problemau mawr yn wynebu Obama yn ei ail dymor. Mae gwrthwynebiad mawr i’w gynlluniau i reoli drylliau, mae’r wlad mewn dyledion mawr, ac fe fydd dan bwysau i weithredu i rwystro Iran rhag datblygu arfau niwclear.