Mae dau ddyn wedi cael eu crogi’n gyhoeddus yn Iran ar ôl i fideo ar YouTube eu dangos yn dwyn ac ymosod ar ddyn â bwyell ar stryd yn Tehran.

Digwyddodd y dienyddiad heddiw ar ôl i’r awdurdodau bwyso am dreial cyflym oherwydd dicter y cyhoedd. Roedd y fideo wedi ymddangos am y tro cynta’n gynnar ym mis Rhagfyr a chafodd ei ddangos wedyn ar deledu’r wladwriaeth.

Cafodd y ddau ddyn 24 oed eu dedfrydu am “ryfela yn erbyn Duw”, cyhuddiad eang a all gynnwys troseddau sy’n amrywio o gynllwynio yn erbyn y llywodraeth i ymosodiadau treisgar.

Dywed asiantaeth newyddion yn y wlad i 300 o bobl wylio’r crogi, a bod dau o’u cyd-droseddwyr wedi cael 10 mlynedd o garchar a 74 o chwipiadau’r un.