Mae hyd at 10,000 o gartrefi yng ngorllewin Cymru heb drydan heddiw ar ôl i’r eira gwympo yno dros nos.
Mae’n ymddangos mai Sir Benfro a rhannau o ddwyrain Sir Gaerfyrddin sydd wedi eu heffeithio fwyaf.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Western Power Distribution bod timau o weithwyr yn ceisio adfer y pŵer.
Dywedodd: “Mae nifer o dimau wedi mynd allan mewn cerbydau 4×4, ac maen nhw’n gweithio i adfer y pŵer yn Sir Benfro cyn gynted â phosib.
“Ond oherwydd y tywydd, mae’n amhosib dweud pryd fydd hyn yn digwydd.”