Llysoedd Lerpwl (llun y gwasanaeth llysoedd)
Fe fydd un o gyn actorion Coronation Street yn dod o flaen llys heddiw ar gyhuddiadau o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn.

Dyma fydd ymddangosiad cynta’ Andrew Lancel yn Llys y Goron Lerpwl – fe gafodd ei arestio ym mis Tachwedd ar honiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ferch o dan 16 oed.

Fe fydd yn wynebu’r pum cyhuddiad hanesyddol o dan ei enw go iawn, Andrew Wilkinson.

Mae’r actor 42 oed yn adnabyddus am actio Frank Foster yn y sioe sebon.