Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau bod cronfa o £250,000 ar gael bob blwyddyn i annog datblygiadau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe allai hynny helpu papurau bro i gynnig gwasanaethau newydd ar y We a chynnig hyfforddiant mewn newyddiaduraeth leol iawn ar-lein.
Fe ddaeth cyhoeddiad Leighton Andrews mewn cynhadledd ryngwladol yng Nghaerdydd i hyrwyddo newyddiaduraeth gymunedol ar-lein – un o’r datblygiadau mawr yn y diwydiant ar draws y byd.
“Mae angen i ni adeiladu ar fodel y papurau bro,” meddai, wrth awgrymu hefyd y gallai newyddiaduraeth gymunedol fod yn rhan o gwrs y BACC Cymreig ar ei newydd wedd ac y gallai hynny greu cronfa newydd o gyfranwyr i’r papurau bro.
Lansio canolfan newydd
Yn yr un gynhadledd, fe gafodd canolfan newydd ei lansio ym Mhrifysgol Caerdydd i hybu newyddiaduraeth leol iawn.
Fe fydd y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn canolbwyntio ar waith ymchwil, datblygu a chefnogi, gan weithio’n benodol yng Nghymru ond gydag elfennau Prydeinig a rhyngwladol hefyd.
Roedd yna ddwy brif nod gan y Ganolfan, meddai’r Athro Justin Lewis, pennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth yn y Brifysgol, a’r rheiny’n ymwneud â’r angen i lenwi bwlch sydd wedi ei adael gan ddirywiad papurau lleol.
‘Newyddiaduraeth werthfawr’
“Ymhen ychydig flynyddoedd, r’yn ni eisiau gweld bod pobol yn gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd o’u cwmpas nag y maen nhw ar hyn o bryd,” meddai Justin Lewis
“Yn ail, bod mwy o bobol yn cael eu talu am weithio mewn newyddiaduraeth nag sydd yna ar hyn o bryd.”
Gyda phob math o ddatblygiadau ym maes technoleg, roedd yna beryg i ni fod yn gyfoethog o ran llwyfannau newyddion, meddai, ond yn dlawd o ran cynnwys.
“Rhan o’r weledigaeth yw creu modelau cynaliadwy ar gyfer peth o’r newyddiaduraeth fwya’ gwerthfawr sydd i’w chael – sef newyddiaduraeth leol.”
Yn ôl pennaeth y ganolfan newydd, Sara Moseley, fe fydd ganddyn nhw ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda phapurau bro.
Newyddiaduraeth leol iawn – y cefndir
‘Hyper local’ yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn Saesneg ar gyfer lleol iawn ac mae’n ddatblygiad pwysig yn y diwydiant newyddion yn yr Unol Daleithiau a rhannau eraill o’r byd.
Mae’n gallu cynnwys datblygiadau gan bapurau newydd a chwmnïau cyfryngol mawr, sy’n ceisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar lefel leol iawn.
Ond mae yna hefyd ddatblygiadau annibynnol, sy’n amrywio o unigolion yn cynnal gwefannau newyddion bach o ran diddordeb, i gyn newyddiadurwyr papurau lleol sy’n ceisio llenwi bylchau a chreu bywoliaeth iddyn nhw eu hunain.
Datblygiadau yng Nghymru
Mae nifer o ddatblygiadau eisoes yng Nghymru, gan gynnwys y Port Talbot Magnet, y Caerphilly Observer a nifer o wefannau dan y label MyTown ym Mhowys.
Yng Nghaernarfon, mae’r cwmni teledu, Cwmni Da, wedi cael grant o £50,000 gan gorff o’r enw NESTA i weithio gyda’r papur bro, Papur Dre, i ddatblygu gwasanaethau ar-lein.
Mae Golwg 360 wedi dechrau trafod gyda rhai papurau bro am y posibilrwydd o arbrofi yn y maes.