Mark Bridger
Fe fydd dyn 46 oed yn ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug yn ddiweddarach heddiw, wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae disgwyl i Mark Bridger, 46 oed o Geinws ger Machynlleth, gyflwyno ple gerbron y llys.

Mae’r cyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn ymwneud ag ymgais i waredu ei chorff yn anghyfreithlon.

Diflannodd April Jones ger ei chartref ar ystâd Bryn-y-Gog ar Hydref 1 y llynedd, a chafodd Mark Bridger ei arestio’r diwrnod canlynol.

Mae’r chwilio am ei chorff yn parhau wedi toriad ar gyfer y Nadolig, ac mae 16 o dimau wrthi’n chwilio ardaloedd cyfagos.