Mae S4C yn
 agor canolfan gyfryngau newydd yn rhan o’i hadeilad yng Nghaerdydd.

Mae’n arwydd o’r crebachu yn nifer staff y sianel wrth iddi geisio gwneud defnydd o lefydd gwag ym Mharc Tŷ Glas Llanisien a chodi incwm.

Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, fydd yn agor y ganolfan yn swyddogol ac mae chwech o gwmnïau gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu teledu wedi penderfynu symud yno eisoes.

Fe wnaeth cwmni teledu HTV yr un math o beth yng Nghroes Cwrlwys Caerdydd pan oedd eu defnydd nhw o’r adeiladau’n lleihau.

Ymhlith y cwmnïau sydd wedi symud i’r ganolfan, mae Cyfle, yr asiantaeth hyfforddi ym maes darlledu.

Fe fydd Ian Jones yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd o fantais i’r sianel ac i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.