Mae gan y BBC tan yfory i ystyried cynnig gan Eos er mwyn dod â’r anghydfod dros daliadau cerddorion i ben.

Ni ddaeth y ddwy ochr i gytundeb mewn cyfarfod ym Mangor ddoe ond mae’r BBC wedi penderfynu cnoi cil dros y cynnig gyda’r bwriad o “ddod i gytundeb sy’n rhesymol ac yn gynaliadwy.”

Mae cyn-lywodraethwr y BBC dros Gymru, Syr Roger Jones, wedi dweud ar Radio Cymru’r bore ma na fydd Eos yn llwyddo am nad oes digon o arian i godi tâl y cerddorion.

Ychwanegodd y byddai gwledydd eraill Prydain yn anhapus wrth weld codiad yn nhaliadau cerddorion Cymru “ac fe allai droi’n fwy na phroblem Gymraeg,” meddai.

Prif Weinidog Cymru yn ystyried ymyrryd

Ar lawr y Senedd ddoe dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y bydd yn ystyried “gwneud y mwyaf y gallwn ni fel llywodraeth ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr fod cytundeb.”

Mae corff hawliau darlledu Eos wedi mynnu eu bod nhw wedi gostwng eu cynnig gwreiddiol a’u bod nhw’n disgwyl i’r BBC ddod fyny â’u cynnig i gwrdd â nhw.

‘BBC Llundain ddim yn deall Cymru’

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, wedi dweud heddiw ei bod hi’n “bwysig iawn fod y BBC yn Llundain yn derbyn cynnig diweddaraf Eos er lles ein cerddorion Cymraeg ac er lles Radio Cymru a’i gwrandawyr.”

“Mae’n amlwg fod pobl Cymru yn gefnogol iawn i Eos a’n cerddorion Cymraeg. Cafwyd ymateb anhygoel i lythyr a osodwyd ar ein gwefan, gyda dros 1,000 yn cymryd y cyfle i anfon llythyr yn cefnogi’n cerddorion at Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr y BBC yng Nghymru, o fewn tridiau yn unig.”

“Mae’n peri gofid i ystyried faint o wrandawyr sydd eisoes wedi troi at orsafoedd radio eraill tra bod diffyg cerddoriaeth gyfoes ar gael iddyn nhw ar Radio Cymru.

“Mae’r anghydfod yma yn ychwanegu pwysau amlwg a sylweddol i’r ddadl dros ddatganoli darlledu i Gymru ac yn dystiolaeth bellach nad yw penaethiaid y BBC yn Llundain yn deall diwylliannau unigryw Cymru yn ddigonol i allu gwneud penderfyniadau priodol a pharchus er lles bobl Cymru,” meddai Robin Farrar.