Daeth y cyfarfod rhwng y corff hawliau darlledu Eos a’r BBC i ben heb gytundeb prynhawn ma ond mae Eos wedi rhoi cynnig newydd ger bron y gorfforaeth sydd wedi cael tan ddydd Iau i ymateb.

Mae disgwyl i’r trafodaethau barhau eto ar ddiwedd yr wythnos, meddai llefarydd ar ran y BBC.

“Rydym yn dal i drafod gydag EOS, y corff sy’n cynrychioli cerddorion Cymraeg, am yr hawliau darlledu i gerddoriaeth Gymraeg.

“Ein blaenoriaeth yw dod i gytundeb sy’n rhesymol ac yn gynaliadwy. Mae disgwyl i’r trafodaethau barhau yn hwyrach yr wythnos hon.”

Dywedodd Cadeirydd Eos, Gwilym Morus ar y Post Prynhawn yn dilyn y cyfarfod heddiw y byddai’n amhriodol i drafod ffigurau tra bod y trafodaethau’n parhau.

Ond ychwanegodd bod Eos wedi “dod i lawr cryn dipyn yn y gobaith y bydd y BBC yn dod i fyny i gwrdd â ni. Ond rydan ni’n agosach o lawer nag oeddan ni,” meddai.

Cyn diwedd y flwyddyn, methodd y ddwy ochr â chytuno ar faint dylai cerddorion Cymraeg gael eu talu gan y BBC am chwarae eu caneuon.

Eos yw’r corff hawliau darlledu newydd sy’n gofyn am fwy o dâl i gerddorion am chwarae caneuon Cymraeg ar y BBC. Maen nhw’n cynrychioli tua 300 o gerddorion ac o ganlyniad i’r anghydfod, nid yw Radio Cymru wedi cael darlledu o blith 30,000 o ganeuon Cymraeg ers 1 Ionawr.

Ddoe, dywedodd cadeirydd pwyllgor llywio Eos, Dafydd Roberts,  wrth Golwg360 ei fod yn “obeithiol” y bydden nhw’n dod i gytundeb heddiw.

Ac er i Bennaeth Rhaglenni a Materion Cymreig y BBC, Siân Gwynedd, ddweud ar Radio Cymru ddoe y byddai cytundeb yn “allweddol”, methodd y ddwy ochr  weld llygad yn lygad yn y cyfarfod ym Mangor heddiw.

AC yn galw am gytundeb buan

Yn y cyfamser mae Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, wedi galw am gytundeb buan rhwng y BBC ac Eos.

Yn ystod sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae Plaid Cymru eisiau gweld cytundeb buan dros y ffrae rhwng y BBC a grŵp Eos, sy’n cynrychioli cerddorion Cymraeg er mwyn sicrhau fod ein tonfeydd yn atseinio gyda cherddoriaeth gyfoes Cymraeg.

“Cred y Blaid, ei bod hi’n angenrheidiol fod cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg yn cael ei glywed eto ar yr unig sianel radio gwbl Gymraeg ei hiaith. Mae cerddoriaeth yma yn bwysig er mwyn denu pobl ifanc i ddefnyddio’r iaith.”

Mae Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn cysylltu gyda’r BBC os nad oes cytundeb heddiw.

Torri amodau Siarter Brenhinol

Y bore ma roedd mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi anfon llythyr at Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru’r BBC, oedd yn honni bod y BBC yn torri amodau ei Siarter Brenhinol trwy beidio â rhoi tâl teg i berfformwyr Cymraeg.

Dywedodd Bethan Jones Parry, llywydd Dyfodol i’r Iaith,  nad yw’r BBC yn “gwasanaethu Cymru, ac nid yw’n hyrwyddo creadigedd, fel y mynnir gan y Siarter.”