Gall y broydd Cymraeg ddiflannu i gyd os na fydd Llywodraeth Cymru yn wynebu’r “realiti oer newydd” medd cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith yn ei neges flwyddyn newydd.
Yn ôl Robin Farrar mae canlyniadau’r Cyfrifiad wedi “dryllio’r chwedl a hyrwyddwyd gan wleidyddion Bae Caerdydd fod dyfodol yr iaith yn ddiogel bellach.”
“Y realiti oer newydd yw y gallwn ni golli’n holl gymunedau Cymraeg oni bai fod y Llywodraeth yn cydnabod fod argyfwng ac yn cymryd rôl arweiniol wrth weithredu Cynllun Strategol Cenedaethol i adfywio’r cymunedau.”
Yn ôl ffigurau’r Cyfrifiad mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn gan 20,000 rhwng 2001 a 2011, ac mae’r iaith wedi colli tir mewn hen gadarnleoedd megis Sir Gaerfyrddin.
Ralïau
Dywed Robin Farrar fod Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i gyfrannu at strategaeth o’r fath gyda’i Maniffesto Byw.
“Yn gyntaf rhaid pwyso ar y Llywodraeth i gydnabod fod argyfwng, a galwn ar bawb sy’n ymboeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ddod allan ar y strydoedd at gyfres o raliau a gynhaliwn yn ystod y mis nesaf,” meddai Robin Farrar.
Mae’r gyfres o raliau yn dechrau dydd Sadwrn yma ym Merthyr Tudful, ac yn symud i swyddfeydd y llywodraeth yng Nghaerfyrddin ar Ionawr 19, ac i’r Bala ar 26 Ionawr.
Mae’r gyfres o ralïau yn gorffen ger Pont Trefechan yn Aberystwyth ar Chwefror 2 ar hanner canmlwyddiant protest gynta’r Gymdeithas.
“Oherwydd gweithgarwch y 50 mlynedd diwethaf gallwn ddatgan y bydd y Gymraeg yn byw,” meddai Robin Farrar.
“Ond y cwestiwn yn awr yw pa fath o ddyfodol a gaiff hi ? Ai iaith lleiafrif bach, neu iaith gymunedol fyw ?
“Bydd ein hymateb ni’n awr i ganlyniadau’r Cyfrifiad yn ffactor pwysig wrth benderfynu.”
Ar Ionawr 30 bydd y Swyddfa Ystadegau yn rhyddhau gwybodaeth bellach am y nifer sy’n siarad Cymraeg ym mhob ward etholiadol yng Nghymru.
Yn 1991 roedd 87 o wardiau â dros 70% o’r trigolion yn siarad yr iaith, ond disgynnodd nifer y wardiau i 59 yn 2001 ac mae’r ffigurau ar gyfer yr awdurdodau lleol a gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf yn awgrymu fod trai pellach wedi bod.