Cafodd Huw Prys Jones olwg fanylach ar ffigurau’r Cyfrifiad ar y niferoedd sy’n siarad Cymraeg a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis
Arwynebol a simplistig iawn ar y cyfan fu’r ymateb hyd yn hyn i’r canlyniadau a gyhoeddwyd ychydig dros bythefnos yn ôl. Gorymateb llwyr a darogan gwae gan rai, ac eraill yn cysuro’u hunain drwy honni nad ydi ffigurau cyfrifiadau’n bwysig p’run bynnag.
Mae’n wir bod angen cydnabod cyfyngiadau’r Cyfrifiad. Y cyfan mae’n ei wneud ydi dangos faint o bobl sy’n dweud eu bod nhw’n medru Cymraeg. Dydi o ddim yn rhoi unrhyw arwydd o’r graddau mae’r iaith yn cael ei defnyddio’n rheolaidd. A hynny ydi’r peth mwyaf allweddol ar lawer ystyr. Mae’n werth cofio hefyd wrth gwrs fod arolygon eraill mwy manwl yn cael eu cynnal o bryd i’w gilydd, fel nad oes yn rhaid defnyddio ffigurau’r Cyfrifiad fel yr unig linyn mesur.
Ar y llaw arall, drwy fod y Cyfrifiad yn cael ei gynnal yn rheolaidd bob deng mlynedd, a’i fod yn ymarferiad trylwyr gyda holl adnoddau’r wladwriaeth yn gefn iddo, ni ellir diystyru’r math o dueddiadau y mae’n ei ddangos. Oherwydd hynny, mae’n werth edrych yn fanwl ar y ffigurau.
All neb wadu mai’r newid amlycaf a mwyaf arwyddocaol dros y 40 mlynedd diwethaf ydi’r dirywiad yn y canrannau yn yr ardaloedd lle mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg.
Ar yr un pryd, fodd bynnag, mae perygl mewn unrhyw or-gyffredinoli. Mae’n rhy hawdd dibynnu ar benawdau hawdd fel ‘cwymp yn y cadarnleoedd’ i greu’r argraff mai’r un math o brosesau sydd ar waith yn yr holl ardaloedd Cymraeg eu hiaith. O graffu tipyn ar yr ystadegau, mae’n gwbl amlwg bellach fod yr hyn sy’n digwydd yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn bur wahanol i Geredigion, heb sôn am Wynedd a Môn.
Niferoedd a chanrannau
Rhwng 2001 a 2011, disgynnodd niferoedd y siaradwyr Cymraeg o 582,000 i 562,000 – cwymp o 20,000 neu 3.5% mewn niferoedd, a gostyngiad o 1.7 pwynt canran o 20.7% yn 2001 i 19.0% yn 2011.
Tra bu cynnydd o 4,200 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, a chynnydd o 1,000 yr un yn Sir Fynwy a Chaerffili, collwyd 6,148 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a 2,954 yng Ngheredigion. Roedd y colledion hyn yn llawer llai yn y gogledd orllewin fodd bynnag – 325 ym Môn, 846 yng Ngwynedd a 698 yng Nghonwy – er bod y canrannau wedi gostwng yn y siroedd hyn.
Wrth gymharu colledion o’r fath â’r niferoedd yn 2001, mae’n amlwg mai mewn dau fath o penodol o ardaloedd y digwyddodd y colledion mwyaf:
- Cymoedd gorllewinol maes glo’r de (cwymp o 11.6% yng Nghastell Nedd Port Talbot, a 9% yn Sir Abertawe o gymharu â ffigurau 2001). Mae’r un peth yn wir i raddau am Wrecsam yn y gogledd-ddwyrain hefyd.
- Ardaloedd y de ddwyrain gyda’r cyfrannau isaf o siaradwyr Cymraeg (collodd Blaenau Gwent 17.6% o’i siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011, a chollodd Torfaen 11.6%)
Gellir priodoli’r cwymp yn yn yr ardaloedd gorllewinol i’r nifer o siaradwyr Cymraeg hŷn a gollwyd dros y 10 mlynedd ddiwethaf; mae tystiolaeth o hyn i’w gael trwy edrych ar broffil oedran siaradwyr Cymraeg Cyfrifiad 2001 mewn ardaloedd o’r fath.
Er bod llai o dystiolaeth uniongyrchol am y gostyngiadau yn y de-ddwyrain, mae’n anodd osgoi’r casgliad fod y ffigurau’n afrealistig o uchel ddeng mlynedd yn ôl. (Yn hyn o beth, mae’n rhaid codi rhywfaint o amheuon am y ffigurau sy’n dangos cynnydd yn Sir Fynwy’r tro hwn. Mae’r canrannau o 40.3% o blant 5-9 oed a 43.6% o blant 10-14 sy’n siarad Cymraeg yn uwch na’r hyn ydyn nhw yn unrhyw sir arall i’r dwyrain o Sir Gaerfyrddin.)
Plant yn colli iaith
O edrych ychydig o dan yr wyneb, mae yna ffigurau llawer mwy dadlennol i’w cael.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 37.4% o blant 5-9 oed a 43.7% o blant 10-14 oed yn gallu siarad Cymraeg. Digon tebyg yw’r ffigurau cyfatebol yng Nghyfrifiad 2011 – 38.2% a 42.2%.
Ond petaech chi’n cymharu’r ffigurau am blant 2001 gyda’r ffigurau am bobl ifanc 15-19 oed a 20-24 oed yn 2011 – sef yr un unigolion i raddau helaeth, neu o leiaf yr un genhedlaeth – mae’r colledion yn ysgytwol.
O’r plant a gafodd eu geni rhwng 1992 a 1996, yr oedd 37.4% ohonyn nhw’n siarad Cymraeg yn 2001 – ond dim ond 29.4% ohonyn nhw oedd yn siarad Cymraeg erbyn 2011. O ystyried y bydd y mwyafrif o’r rhain yn dal yn yr ysgol, mae’n gryn ostyngiad. Dydi hyn fodd bynnag yn ddim o’i gymharu â’r grŵp oedran nesaf.
O’r rhai a gafodd eu geni rhwng 1987 a 1991, roedd 43.7% ohonyn nhw’n siarad Cymraeg yn 2001. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, roedd y gyfran wedi gostwng i 17.6%.
O edrych ar y graffiau ar wefan Comisiynydd y Gymraeg fe welwn fod y niferoedd o’r genhedlaeth hon a oedd yn siarad Cymraeg wedi gostwng o tua 85,000 yn 2001 i tua 37,500 ddeng mlynedd yn ddiweddarach. (Fy amcangyfrif i o’r graffiau ydi hyn – does dim ffigurau manwl arnyn nhw).
A chymryd y bydd llawer o ymfudo wedi digwydd a phobl ifanc wedi mynd i golegau yma ac acw, all hyn ynddo’i hun fyth fod yn ddigon i gyfrif am y newid. Yr unig gasgliad y gellid dod iddo ydi bod yna niferoedd anferthol naill ai’n colli gafael ar yr iaith unwaith maen nhw’n gadael yr ysgol, neu nad oedden nhw ond yn medru siarad y nesaf peth i ddim yn y lle cyntaf.
Mae’r gostyngiadau mwyaf yn yr ardaloedd mwyaf Saesneg eu hiaith. Tra bod rhwng 3,000 a 3,500 o blant 10 i 14 oed yn gallu Cymraeg yn Nhorfaen yn ôl cyfrifiad 2001, dim ond ychydig dros 500 o’r genhedlaeth yma oedd yn dal i siarad Cymraeg yno yn 2011. Yn yr un modd, Blaenau Gwent – tua 2,300 yn 2001 wedi gostwng i tua 700-800 erbyn 2011. A Chasnewydd – o tua 4,600 yn 2001 i tua 800 erbyn 2011.
Mae rhywfaint o ostyngiadau i’w gweld yn y siroedd Cymreicaf hefyd, ond ddim yn agos i’r un graddau. Yng Ngwynedd, roedd tua 6,500 o blant 10-14 oed yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001 o gymharu â 5,000 o bobl ifanc 20-24 oed yn 2011. Mae’n ymddangos fod y gostyngiad cyfatebol ym Môn o tua 3,500 yn 2001 i 2,500 yn 2011. (Mae’r gostyngiad yn llai yn Nghaerdydd hefyd – o ychydig dros 6,000 i ychydig o dan 4,000, ond mae amgylchiadau Caerdydd yn debyg o fod yn rhai rhy eithriadol i ddod i unrhyw gasgliad synhwyrol yn eu cylch.)
Mae’n werth edrych ar y darlun ieithyddol yn llawnach yn ambell un o’r siroedd.
Sir Gaerfyrddin (43.9%)
Yn ôl cyfrifiad 1961, roedd 75% o bobl Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg – canran debyg i’r hyn oedd yn siroedd eraill y gorllewin. Does dim rhyfedd felly fod y sir yn arfer cael ei hystyried yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.
Ond roedd arwyddion o’r dirywiad hyd yn oed cyn belled yn ôl ag 1961, pryd roedd canrannau llawer uwch o bobl hŷn nag o blant yn ei siarad. Felly er cymaint y dirywiad dros y 10 mlynedd ddiwethaf, dydi o ddim yn gwbl annisgwyl.
Yn anffodus, does dim llawer o gysur i’w gael o edrych ar y proffil oedran eleni chwaith.
Hyd yn oed ymhlith yr oedrannau 5-9 a 10-14 – sef plant oed ysgol sydd â’r canrannau uchaf yn siarad Cymraeg – dim ond 60% sy’n siarad Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cymharu â dros 80% yng Ngheredigion a Môn a dros 90% yng Ngwynedd. Llai na 40% o bob grŵp oedran rhwng 25 a 65 sy’n gallu’r iaith yn Sir Gaerfyrddin. A llai na thraean o’r holl boblogaeth sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.
Ceredigon (47.3%)
Er i gyfran y siaradwyr Cymraeg ostwng yn is na hanner am y tro cyntaf, mae’n bosibl bod nifer y myfyrwyr yn y sir yn golygu nad yw’r sefyllfa lawn cynddrwg ag mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.
Mae’r canrannau o blant sy’n siarad Cymraeg fymryn yn uwch na’r hyn yw ym Môn, lle mae’r gyfran ymhlith y boblogaeth gyffredinol yn sylweddol uwch. Ond mae’r ganran yn gostwng i 31.3% yn y grŵp oedran 20-24, ac mae’n debyg bod hyn i’w briodoli’n bennaf i fyfyrwyr.
Rhywbeth mwy difrifol yw’r 3,000 o siaradwyr Cymraeg a gollwyd o’r sir dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Môn (57.3%)
Er bod y Gymraeg fel petai wedi dal ei thir yma i raddau helaeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae effaith mewnfudo i’w weld yn glir. Prin hanner y bobl dros 50 a 60 sy’n siarad Cymraeg, ac o ystyried y byddai’n mwyafrif llethol o bobl yr oedran yma sydd wedi cael eu geni a’u magu ym Môn yn gallu’r iaith, mae’n amlwg mai pobl ddwad yw’r mwyafrif.
Gwynedd (65.4%)
Y sir Gymreiciaf o ddigon yn ôl unrhyw faen prawf. Yma, fel yng Ngheredigion, mae’n ymddangos fod myfyrwyr yn dylanwadu ar y ffigurau. Mae’r ganran o 51.4% o bobl ifanc 20-24 oed sy’n siarad Cymraeg yn llawer iawn is nag unrhyw grŵp, er bod effeithiau mewnfudo’n amlwg yma hefyd ymysg y cenedlaethau hŷn. Mater arall o bryder yma yw fod cwymp cyffredinol yn niferoedd y plant wedi peri cwymp yn nifer y plant sy’n siarad Cymraeg er bod y ganran wedi codi fymryn.
Casgliadau
Dydi Cyfrifiad 2011 ddim yn dangos darlun anobeithiol. Ond mae’n tanlinellu’r angen i ofyn cwestiynau y dylid bod wedi eu gofyn ymhell cyn hyn am effeithiolrwydd ein hymdrechion i ddiogelu’r iaith.
Oes, mae enillion pwysig wedi cael eu gwneud dros y Gymraeg dros y 50 mlynedd ddiwethaf. Mae hyn i’w weld yn arbennig o ran statws ac ym maes addysg, ac mae gan Gymru bellach y pwerau i weithredu’n ymarferol dros yr iaith. Yn llawer pwysicach, mae’r newid agwedd at yr iaith ymhlith trwch y boblogaeth yn rhywbeth i lawenhau ynddo.
Ond rhaid inni gydnabod yr un pryd fod yna lawer gormod o ynni wedi cael ei wastraffu’n hollti cnau gweigion. Yr ymateb mwyaf adeiladol o ddigon i’r Cyfrifiad ydi sylwadau’r Athro Harold Carter yn y rhifyn diwethaf o Golwg, lle dywed fod gormod o bwyslais ar ymgyrchu dros hawliau yn lle dros ddatblygiadau economaidd cydnaws yn yr ardaloedd Cymraeg.
Y peth pwysicaf a wna Cyfrifiad 2011 ydi cadarnhau rhai gwironeddau sydd wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd.
- Dydi colledion mewn ardaloedd Cymraeg ddim yn cael eu gorbwyso gan enillion mewn ardaloedd eraill. Fu hyn erioed yn wir p’run bynnag – fedrwch chi ddim mesur y golled o gymdogaethau sy’n Cymraeg ei hiaith faint bynnag o gynnydd ar bapur a gewch yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg. Siawns y bydd Cyfrifiad 2011 yn fodd o ddryllio’r myth yma unwaith ac am byth.
- Tameidiog ar y gorau ydi llwyddiant dysgu Cymraeg mewn ysgolion. Hyd yn oed os ydi’r plant gallu ei siarad ar y pryd, mae’n amlwg fod cyfran anferthol yn ei hanghofio cyn gynted ag y maen nhw’n gadael yr ysgol. Mae’n amlwg felly nad yw ysgolion ynddyn nhw’u hunain yn ddigon i gynnal yr iaith.
- Rhaid i unrhyw ymdrechion dros yr iaith gael eu gwerthuso’n galed. A fydd yr hyn a geisir yn arwain at fwy o bobl yn defnyddio’r Gymraeg? Os na, mae angen cyfeirio’n hegnïon at bethau amgenach. Tasg ac iddi nod cwbl ymarferol ydi cynnal iaith a hunaniaeth, nid rhyw fath o safiad egwyddorol dros hawliau a chyfiawnder.
- Mae’n hen bryd rhoi cydnabyddiaeth dyledus i bwysigrwydd ardaloedd lle mae cyfran sylweddol yn siarad Cymraeg. A llai o gyfeirio nawddoglyd a di-hid at ddirywiad mewn ardaloedd “traddodiadol” Cymraeg fel petai modd creu rhyw fath o Gymru newydd Gymraeg yn y de-ddwyrain petai’r rhain yn chwalu. Mae cynnal a chryfhau ac adfer cadarnleoedd yn rhan gwbl allweddol o’r gwaith o greu Cymru ddwyieithog.
- Mae angen ymateb yn ddeallus pan gyhoeddir y ffigurau am ardaloedd llai. Mae’r argoelion yn awgrymu y bydd cwymp pellach yn y plwyfi gyda’r cyfrannau uchaf. Penderfyniad i’w codi nhw’n ôl fydd ei angen, nid anobeithio a darogan gwae. Os na chredwn fod modd adfer y Gymraeg yn ei chadarnleoedd does fawr o obaith gallu gwneud hynny yng ngweddill Cymru.
- Yn olaf, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y gogledd-orllewin i barhad y Gymraeg. Mae pob arolwg blaenorol wedi dangos mai yma y mae’r mwyaf o Gymraeg yn cael ei siarad. Er gwaethaf popeth, mae’r Cyfrifiad yn awgrymu bod darn helaeth o dir yn y gogledd-orllewin lle mae mwyafrif clir o’r boblogaeth gyffredinol a mwyafrif llethol y boblogaeth frodorol yn siarad Cymraeg. Mae cynnal hyn am fod yn gwbl allweddol os am unrhyw fath o barhad i’r Gymraeg fel iaith y mae pobl yn ei siarad yn naturiol o ddydd i ddydd.