Nigel Farage, arweinydd UKIP
Mae Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) yn fwy poblogaidd nag y bu erioed yn ôl arolwg barn newydd sy’n dangos cefnogaeth o 15% iddi.

Mae hyn ddwywaith cymaint â’r gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol (8%) yn arolwg Opinium ar gyfer papur newydd yr Observer. Mae Llafur ar 39%, 10 pwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr ar 29%. Roedd Opinium wedi cyfweld â 1,965 o bobl rhwng Rhagfyr 21 a 27.

Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage, fod 2012 wedi bod yn flwyddyn nodedig i’w blaid, ar ôl twf cyson yn ei chefnogaeth o 4.5% 12 mis yn ôl.

“Dw i’n arbennig o falch o’r is-etholiadau, yn enwedig yn Corby, Rotherham a Middlesborough,” meddai.

“Er gwaethaf obsesiwn y cyfryngau fod UKIP yn cymryd pleidleisiau Torïaid – sy’n wir wrth gwrs – yr hyn a ddangosodd yr etholaethau gogleddol hyn oedd fod pleidleisiau Llafur yn dod at UKIP mewn niferoedd sylweddol yn ogystal.”