Mae chwe dyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i ferch ifanc farw o ganlyniad i gael ei threiso a’i churo’n ddidrugaredd gan gang ar fws ym mhrifddinas India.
Roedd yr ymosodiad ar 16 Rhagfyr wedi cythruddo’r wlad ac arwain at brotestiadau’n galw am fwy o amddiffyniad i ferched rhag trais rhywiol.
Cafodd y cyhuddiadau o lofruddiaeth eu gwneud ddoe, oriau ar ôl i’r ferch ifanc farw mewn ysbyty yn Singapore lle’r oedd hi’n derbyn triniaeth.
Cafodd ei chorff ei amlosgi mewn seremoni breifat yn New Dehli heddiw, yn fuan ar ôl iddo gael ei hedfan yn ôl yn unswydd gan Air India o Singapore.
Roedd y Prif Weinidog Manmohan Singh yn y maes awyr i dderbyn y corff ac i gyfarfod aelodau o’i theulu a oedd yn teithio ar yr awyren.
Fe allai’r chwe dyn wynebu’r gosb eithaf os cân nhw eu canfod yn euog.