Canol Caerdydd
Mae’r tai drytaf yng Nghymru yn Strud Druidston yng Nghaerdydd.

Ar gyfartaledd mae cartref yno’n costio £682,000, a’r ail stryd ddrytaf yw Gannock Park yn Neganwy yn Sir Conwy, lle mae’r tai ar gyfartaledd yn £636,000.

Cafodd y rhestr ei llunio gan fanc Lloyds TSB, ac roedd y stryd ddrytaf yng Nghymru a Lloegr yn Llundain.

Mae tai yn costio £8.1 miliwn yn Egerton Crescent yn Kensington a Chelsea.