Mae disgwyl i bobol Ynysoedd Prydain fod wedi gwario £10.4 biliwn yn y sêls erbyn y flwyddyn newydd.
Yn ôl The Sun mae siopau wedi bod yn orlawn gydag un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain – 13 miliwn – yn shopio am fargeinion gyda phrisiau wedi gostwng hyd at 80%.
Ddoe roedd tua 600,000 yn chwilio am fargen yn Llundain, 210,000 yn Birmingham a 150,000 yn Sheffield.
Yn ôl y Ganolfan Ymchwilio Gwerthiant bydd £8.7 biliwn wedi ei wario yn y siopau eu hunain erbyn y flwyddyn newdd, ac £1.7 biliwn wedi ei wario ar y We.