Gruff Rhys
Bydd ffilm newydd ar S4C heno yn dangos y cerddor Gruff Rhys yn chwilio am hanes dau o drigolion Patagonia.

Daeth y canwr René Griffiths i Gymru o’r Ariannin yn y saithdegau ac wrth fynd i chwilio amdano mae Gruff Rhys hefyd yn dilyn taith cangen o’i deulu symudodd o’r Bala i Batagonia 130 o flynyddoedd yn ôl yn dilyn rhwyg teuluol.

Mae’r ffilm Separado! yn daith i gyfeiliant pob math o arddulliau cerddorol. Mae caneuon Gruff Rhys ei hun, roc seicadelic, cerddoriaeth gwerin y gaucho wedi’u cyfuno gyda dychymyg sci-fi i greu ffilm Western gerddorol.

Mae’r daith yn cychwyn gyda hanes ras geffylau ddadleuol yn Y Bala ac yn gorffen yng nghartref olaf Butch Cassidy a’r Sundance Kid yn Yr Andes, Yr Ariannin. Mae’n cynnwys cyfweliadau gyda cherddorion, perthnasau a llu o bobl eraill wrth i Gruff gynnal cyfres o gigs ym Mrasil a’r Ariannin. Mae Gruff yn ymweld â chwaer René, Rini, ei nith Cecilia a’i ewyrth, Bryn Griffiths, ar drywydd y dyn ei hun.

Dywed Llion Iwan, sy’n Gomisiynydd Cynnwys S4C, ei fod yn hynod falch o gael dangos y ffilm yma ar y sianel.

“Mae’n ffilm sy’n dangos mewn modd difyr a llawn hiwmor sut mae cerddoriaeth yn creu cwlwm rhwng pobl a pha mor bwysig yw gwreiddiau ac etifeddiaeth,” meddai.

Mae’r ffilm yn rhoi darlun byw o fywyd a hanes yr Archentwyr  o dras Gymreig sy’n dal i fyw o dan amgylchiadau digon anodd gan fod llawer o’r tirwedd mor anial a’r economi mor fregus. Mae hefyd yn cyflwyno agweddau llai rhamantus o’r Wladfa gan gynnwys hanes cyflafan Trelew.

Meddai Gruff Rhys, “Mae Patagonia wedi troi’n gang bang i’r cyfryngau Cymreig – mae pobl fel fi yn rasio yma i ramantu am ryw fath o iwtopia Gymreig yn yr anialwch. Ond er hynny, mae’n rhyfeddol bod y diwylliant Cymreig wedi goroesi o gwbl yma ac mae’n adlewyrchu’r peryglon a’r frwydr i achub yr iaith Gymraeg yng Nghymru ac yn enghraifft o’r reddf ddynol i oroesi yn erbyn y ffactorau.”

Bydd Separado! yn cael ei darlledu ar S4C heno am 9.30yh gyda ail-ddarllediad am 11.00 ar Ddydd Calan.