Golygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, Owain Schiavone sy’n dewis ei ddeg hoff gân o’r rhai a gyhoeddwyd yn 2012…
10. Peil o Esgyrn – Breichiau Hir
‘Chydig o roc, llwyth o agwedd a riff gitâr a hanner. Roedd ‘na hefyd fideo bach da i’r sengl a ryddhawyd ym mis Mawrth. Byddai’n neis gweld mwy gan Breichiau Hir yn 2013.
9. Sgrin y Cof – Twmffat
Ail albwm trawiadol, yn ôl y disgwyl, gan Ceri Cunnington a’i gyfeillion. Mae Sgrin y Cof yn drac bach syml, ond yn gân fwyaf cofiadwy’r albwm.
8. Tonfedd Oren – Bwrw Haul
Roedd yn flwyddyn dda i gerddoriaeth electro Cymraeg. Nes i ddarganfod Tonfedd Oren yn 2012, ond ychydig iawn o sylw maen nhw wedi’i gael hyd y gwelaf, ac mae hynny’n drueni. Dwi’m yn siŵr sut i gyfieithu ‘folktronica’ (gwerintroneg?), ond os ydy Bwrw Haul yn ei ddiffinio, wel dwi’n hoffi!
7. Nofa Scosia – Sen Segur
Ar ôl EP cyntaf addawol yn 2011, mae Sen Segur wedi aeddfedu tipyn yn 2012. Rhyddhawyd sengl ddwbl ar gasét reit ar ddechrau’r flwyddyn, ac mae Nofa Scosia’n cynrychioli eu sŵn seicadelig i’r dim.
6. Ymbelydredd – Gwenno
Ar ôl cyfnod allan o’r sin Gymraeg, yn canolbwyntio ar y grŵp The Pipettes, mae Gwenno wedi bod yn amlwg iawn yn ail hanner 2012 gan ryddhau EP Ymbelydredd ar ddiwedd yr haf. Gyda sŵn pop-electronig prydferth iawn, y trac teitl ydy’r orau ar y casgliad i mi.
5. Eira – Sŵnami
Rhyddhawyd dwy sengl arbennig o dda gan y grŵp o Ddolgellau eleni, ond os oes rhaid dewis un yna Eira sy’n mynd â hi diolch i’r cyfuniad gwych o dryms a gitâr dri chwarter ffordd drwy’r gân.
4. Diwrnod Braf – Pry Cry
Cân yr haf 2012 efallai? Tiwn fach neis fedrwch chi ddim helpu mo’i hoffi. Y bonws ydy fod modd lawr lwytho’r albwm cyfan, Buzz!, am ddim.
3. Cyn Iddi Fynd Rhy Hwyr – Cowbois Rhos Botwnnog
Cân Gwilym Morus yn wreiddiol, ond enghraifft hyfryd o sŵn diweddaraf CRhB, gyda llais Iwan ar ei bruddglwyfus orau, a harmoneiddio perffaith Branwen yn plethu’n hyfryd wrth i’r gân adeiladu’n raddol at uchafbwynt.
Gwrandewch arni yma.
2. Panic – Dewi Williams
Tydi albwm Gwyliau heb gael unrhyw le’n agos at ei sylw haeddiannol, ac mae hynny’n ddim llai na chywilydd. Panic ydy’r fy ffefryn i ar y record – clyfar, dyfeisgar a chofiadwy.
1. Symud Ymlaen – Candelas
Mae’r diwn hynod fachog yma gan Candelas yn cyrraedd brig y rhestr o drwch blewyn, a hynny ar sail y perfformiadau gwych ohoni dwi di gweld gan yr hogiau’n fyw. Cafodd hon ei chyhoeddi i’w lawr lwytho’n rhad ac am ddim credwch neu beidio – bargen y flwyddyn! ‘Mae’r teimlad dan ynoooooo…’ ydy wir ‘ogia, ydy wir.
Os ydw i wedi methu rhywbeth, croeso i chi nodi hynny isod! Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.