Fe fydd cyfraniad cwmnïau recordiau bychain Cymraeg yn cael lle amlwg mewn arddangosfa ar ddiwylliant a diwydiant Cymru y flwyddyn nesa’.
Hannah Way o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, sy’n ymchwilio i ‘Oes Aur’ pop Cymraeg ar ran Amgueddfa’r Glannau, Abertawe, sydd wrthi’n rhoi sylw i bob math o fenter yng Nghymru dros 300 mlynedd.
Mae Hannah Way ar hyn o bryd wrthi’n holi rhai o ‘hoelion wyth’ y sîn roc a phop Cymraeg yn ystod yr 1980au a’r 1990au. Mae’n gweithio o dan oruchwyliaeth Dr Pwyll ap Siôn a Dr Craig Owen Jones, darlithwyr yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor.
“Wrth feddwl am ein diwydiannau hanesyddol, rydym yn naturiol yn tueddu i feddwl am oes y diwydiannau trwm, fel glo a dur, ond mae gennym draddodiad o arloesi a menter mewn meysydd tra gwahanol,” meddai Ian Smith, Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
“Bydd yr arddangosfa ‘Oes Aur Canu Pop’ yn talu teyrnged i ddiwydiant cerddorol Cymru ac yn ymchwilio i rai o’r diwylliannau a’r traddodiadau sydd ynghlwm wrthi.”
Labeli yn “agoriad llygad”
“Fy man cychwyn yw cysylltu efo’r unigolion y tu ôl i labeli ac artistiaid yr 80au a’r 90au er mwyn trafod y diwydiant ar y pryd,” meddai Hannah Way.
“Hefyd, mae gen i ddiddordeb yn y defnydd a wneir o roc a phop Cymraeg ym myd addysg yng Nghymru: o weithgareddau efo pobol fel Martyn Geraint ar gyfer plant meithrin, trwy nosweithiau’r Urdd i bobol ifanc ac, wrth gwrs, modiwlau sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymwneud ag agweddau ar bop Cymraeg.”