Mae awdur a chyhoeddwr a gymrodd rhan ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar bont Trefechan wedi beirniadu bwriad y Theatr Genedlaethol i gynnal sioe arbrofol i nodi hanner canmlwyddiant y brotest.
Dywedodd Robat Gruffudd ei fod yn amau a fydd “gwibio pobol rownd Aberystwyth mewn hen Morris Minors er mwyn cael paneidiau mewn caffis” yn gwneud i bobol ddeall mwy am yr hyn ddigwyddodd ar Chwefror 2 1963.
Bydd y Theatr Genedlaethol yn coffau’r hanner canmlwyddiant trwy berfformio Y Bont ar Chwefror 3 2013 mewn llefydd gwahanol yn Aberystwyth. Bydd yn “plethu theatr byw gyda ffilm, technoleg ddigidol, a chyfryngau cymdeithasol i greu un digwyddiad bythgofiadwy” medd y Theatr.
‘Dilyn ffasiwn’
Dywedodd Robat Gruffudd, enillydd Gwobr Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fod y Theatr Genedlaethol yn “dilyn ffasiwn” drwy gynnal sioe arbrofol.
“Byddai’n well ‘sen nhw’n cynnal drama go iawn, tair act,” meddai.
“Does dim byd yn bod ar bethe arbrofol ond mae’r Theatr yn gwneud hynny ar draul eu prif swyddogaeth nhw, sef cynhyrchu dramâu gwreiddiol gan Gymry am Gymru.”
Dywedodd hefyd fod y Theatr wedi “colli ffordd” drwy beidio comisiynu digon o waith gwreiddiol gan awduron o Gymru.
“Dwi methu deall ofn y Theatr i gomisiynu gwaith gwreiddiol,” meddai.
“Prif waith theatr genedlaethol yw hyrwyddo dramâu a dramodwyr sy’n adlewyrchu bywyd a dyheadau’r wlad.
“Fe wario nhw ffortiwn ar gyfieithu Shakespeare i gynulleidfa Gymraeg, a darparu uwchdeitlau i gyfieithu’r ddrama nôl i’r Saesneg.”
Ychwanegodd Robat Gruffudd ei fod eisoes wedi prynu dau docyn ar gyfer Y Bont “er mwyn gweld pa mor driw yw’r sioe i’r hyn ddigwyddodd yn 1963.”
Ymateb y Theatr
Yn ôl Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffydd, roedd protest pont Trefechan yn “ddigwyddiad ddaru gwyrdroi cwrs hanes Cymru,” a dywedodd bod yr hanner canmlwyddiant yn “gyfle i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol a fydd yn tanio dychymyg pobol ynglŷn â beth sy’n bosib gyda gwaith theatr.”
“Un elfen o’r theatr yn unig ydi drama dair neu bedair act wedi’i pherfformio mewn stafell dywyll. Mae theatr yn llawer iawn iawn mwy na hynny. Mae yna ddyletswydd arnon ni fel cwmni theatr i ddathlu cyfrwng y theatr yn ei holl liwiau.
“Wedi dweud hynny, o ddilyn y thema yma o gyfnod mewn hanes pan daniwyd yr angen i wneud safiad er mwyn gwarchod yr iaith, wedi i ychydig o bobol yn ystod canol y ganrif ddiwetha’ gael deffroad ynglŷn â’r perygl i’r iaith… y ddrama nesa’ sy’ ganddon ni ar daith, ar ffurf lawer mwy confensiynol, fydd Dyled Eileen, a fydd yn cofnodi cyfraniad Eileen a Trefor Beasley i hanes brwydr yr iaith.
“Mae honno’n teithio o gwmpas neuaddau a theatrau Cymru fis Mawrth.
“Gobeithio wedyn ein bod ni’n gallu plesio’r rheiny sydd yn chwilio am theatr ychydig yn fentrus neu’n ddychmygus, a’r rheiny sydd yn licio eistedd mewn stafell dywyll a chael drama yn y ffurf fwy draddodiadol.”