Mae’r cwmni recordiau gafodd ei sefydlu gan y canwr protest Dafydd Iwan a Chadeirydd presennol S4C, Huw Jones, ar werth.

Ers ei sefydlu nôl yn y 1960au daeth Sain yn asgwrn cefn canu pop Cymraeg, ac mae’r cyfarwyddwyr am werthu’r cwmni recordiau am eu bod yn heneiddio.

Mae’r cwmni o Landwrog ger Caernarfon yn cyflogi 24 o bobol ac mae ganddo ôl-gatalog gwerthfawr sy’n werth “swm sylweddol iawn” yn ôl y BBC.

Record gynta’ Sain oedd ‘Dŵr’ gan Huw Jones, ac ers hynny maen nhw wedi rhyddhau recordiau gan Dafydd Iwan, Catatonia, Anweledig, Gwibdaith Hen Frân, Bryn Fôn a Bryn Terfel.