Bryn Fon - un o'r cerddorion amlwg
Fe fydd rhaid i Radio Cymru dorri tair awr oddi ar ei horiau darlledu yn y flwyddyn newydd – os na fydd y BBC’n dod i gytundeb gyda cherddorion Cymraeg.

Fydd dim modd cynnal yr oriau arferol os bydd tua 300 o gyfansoddwyr yn gwrthod rhoi hawl i chwarae eu caneuon, meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.

Mae’r rheiny’n cynnwys rhai o’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr mwya’ poblogaidd – un o’r cerddorion sydd ynghanol y trafodaethau yw Bryn Fôn.

Mae’r BBC wedi codi’r gwres cyhoeddus wrth dynnu sylw at y bygythiad i raglenni ar ôl methiant trafodaethau gydag Eos, y corff sy’n cynrychioli’r cerddorion.

Mae hwnnw’n gofyn am gynnydd yn yr arian y mae cyfansoddwyr a chyhoeddwyr yn ei gael am ddefnyddio’u caneuon – llawer llai, medden nhw, na chaneuon ar orsafoedd eraill, fel yr Asian Network.

Wfftio

Maen Eos hefyd yn dweud eu bod wedi lleihau eu galwadau, ond heddiw roedd Rhodri Talfan Davies yn wfftio hynny, gan ddweud eu bod yn dal i ofyn am gynnydd o ddeg gwaith.

“Allwn ni ddim cyrraedd y math o rifau y mae Eos yn sôn amdanyn nhw,” meddai ar Radio Wales. Fe ddisgynnodd y taliadau i gyfansoddwyr caneuon Cymraeg yn sylweddol ar ôl newidiadau yn nhelerau’r corff taliadau, y PRS.

“Allwn ni ddim colli cymaint â hynna o gynnwys heb effeithio ar raglenni.”

Y cefndir

Fe ddisgynnodd y taliadau i gyfansoddwyr caneuon Cymraeg ar ôl i’r corff taliadau, y PRS, newid ei amodau.

Fe arweiniodd hynny at sefydlu Eos, sy’n ceisio cyrraedd telerau newydd gyda’r BBC ac S4C – maen nhw’n dadlau bod y diffyg arian yn bygwth dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.