Mae sengl elusen er budd teuluoedd Hillsborough yn arwain y ras i fod yn rhif un yn y siartiau Prydeinig dros y Nadolig.

Mae fersiwn y Justice Collective o ‘He Ain’t Heavy, He’s My Brother’ wedi gwerthu  14,000 yn fwy o gopïau na sengl enillydd yr X Factor, James Arthur, yn ôl ffigurau gan y Cwmni Siartiau Swyddogol.

Mae Robbie Williams a Syr Paul McCartney ymhlith yr artistiaid sy’n ymddangos ar gân y Justice Collective sy’n codi arian ac ymwybyddiaeth i’r frwydr gyfreithiol gan deuluoedd y rhai a gafodd eu lladd yn nhrychineb Hillsborough.

Ddoe, fe wnaeth yr Uchel Lys ddileu’r dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol yn y cwestau gwreiddiol i farwolaeth 96 o gefnogwyr Lerpwl yn Hillsborough 23 mlynedd yn ôl.