Rhodri Talfan Davies
Mae’r BBC wedi apelio ar gyfansoddwyr Cymraeg i dderbyn cynnig ariannol a fyddai’n “cynyddu’n sylweddol” y taliadau maen nhw’n eu derbyn am ddarlledu eu caneuon ar Radio Cymru.
Mae trafodaethau rhwng y cerddorion a’r BBC yn parhau ar ôl iddyn nhw fethu â chytuno ar y taliadau mewn cyfarfod Dydd Mawrth.
Dywed y BBC fod y cynnig heddiw yn mynd ymhellach na’r hyn sydd wedi cael ei dalu erioed o’r blaen gan y PRS, y corff hawliau perfformio, am yr hawliau darlledu.
“Rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddatrys yr anghydfod, ac wrth i’r Nadolig agosáu rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu dod i gytundeb,” meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.
“Rydym wedi gwrando’n astud ar bryderon y cerddorion ac wedi ymateb gyda chynnig sylweddol ac arwyddocaol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd cerddoriaeth Gymraeg i’n cynulleidfaoedd ac i fywyd diwylliannol Cymru.”
‘Gorfod peidio â chwarae caneuon’
Mae’r BBC yn rhybuddio y byddan nhw’n methu chwarae miloedd o ganeuon Cymraeg ar Radio Cymru o Ionawr 1 ymlaen os na fydd cytundeb munud olaf gyda chorff Eos, sy’n cynrychioli 297 o gyfansoddwyr Cymraeg a 34 o gwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth.
“Mewn cyfnod ariannol anodd, pan mae pob darlledwr cyhoeddus yn wynebu toriadau rydym yn teimlo ein bod wedi gwneud cynnig sy’n arwyddocaol, yn sylweddol ac yn deg,” meddai Rhodri Talfan Davies.
“Os na fydd Eos yn derbyn y cynnig fe fyddwn ni’n gorfod peidio â chwarae rhan helaeth o’r gerddoriaeth sy’n gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru o 1 Ionawr – penderfyniad sy’n peryglu ac yn niweidio gwasanaeth sydd wrth galon bywyd a diwylliant Cymraeg.
“Fe fyddwn yn annog Eos i ystyried y cynnig o ddifri er lles eu haelodau. Yn y cyfamser fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod y gwasanaeth gwerthfawr mae Radio Cymru yn ei gynnig i’r gwrandawyr.”
Radio Cymru yn paratoi cynllun wrth gefn
Mae’r BBC wedi cynnig ymestyn y trafodaethau gyda chorff Eos i’r flwyddyn newydd er mwyn ceisio datrys yr anghydfod neu i fynd at wasanaeth cymodi annibynnol.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys yr anghydfod mewn ffordd gyfeillgar a synhwyrol,” meddai Rhodri Talfan Davies.
“Ond mae arian yn dynn i bawb y dyddiau hyn – ac mae’n ddyletswydd arnom ni i sicrhau ein bod ni’n gwario arian o ffi’r drwydded yn y ffordd orau bosib.”