Mae un o gwmniau grŵp Tinopolis o Lanelli wedi ennill cytundeb £100m i ddarlledu gemau uwchgynghrair pêl-droed Lloegr yn fyw.
Mae’r cytundeb hefyd yn caniatau i Sunset+Vine ddarlledu gemau byw o uwchgynghrair rygbi Lloegr am y pedwar tymor nesaf.
BT sydd wedi rhoi’r cytundeb ar ôl iddyn nhw dalu £738m am yr hawl i ddarlledu 38 o gemau uwchgynghrair pêl-droed Lloegr am y tair blynedd nesaf. Bydd Jake Humphrey, gynt o’r BBC, yn cyflwyno’r rhaglenni o stiwdio yn y pentref Olympaidd yn nwyrain Llundain.
Mae Sunset+Vine eisoes yn cynhyrchu rhaglen rygbi ar gyfer ESPN, ac wedi cael ei ganmol am ei ddarllediadau o’r Gemau Paralympaidd ar Channel 4 dros yr haf.